SL(5)241 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheoliadau cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch a restrir isod er mwyn cywiro diffygion yn y ddeddfwriaeth bresennol a gwneud darpariaeth ar gyfer newidiadau i'r categorïau statws mewnfudo y mae'n rhaid i fyfyrwyr berthyn iddynt er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth. Ychwanegir dau gategori, sef "personau sydd wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat" a "phersonau diwladwriaeth".

Y Rheoliadau sy'n cael eu diwygio yw:

-     Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

-     Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

-     Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

-     Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

-     Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015

-     Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

-     Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Rydym yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig "Cyllid a chymorth ar gyfer myfyrwyr o’r UE sy'n astudio yng Nghymru" ar 2 Gorffennaf 2018, sy'n nodi:

"Bydd gwladolion yr UE sy’n bwriadu astudio yng Nghymru am y flwyddyn academaidd 2019/20 yn gymwys i dalu’r un ffioedd dysgu â myfyrwyr o Gymru a byddant hefyd yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru – yn amodol ar y meini prawf sydd eisoes yn eu lle o ran cymhwystra. 

Mae hyn yn barhad o’r polisi presennol a bydd myfyrwyr yn parhau i dderbyn cymorth nes y byddant yn gorffen eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i holl gyllid myfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru y mae gwladolion yr UE yn gymwys amdano. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu (ar gyfer y rheiny sy'n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd am dair blynedd), benthyciadau a grantiau cynnal (yn gyfyngedig i'r rhai sy'n byw yn y DU am dair blynedd o leiaf), a rhai grantiau a lwfansau eraill.

Nid yw’r rheolau sy'n berthnasol i wladolion yr UE sydd wedi gwneud cais am le mewn prifysgol ym mlwyddyn academaidd 2018/19 i astudio cwrs sy'n denu cymorth i fyfyrwyr wedi newid.  Bydd CMC yn asesu'r ceisiadau hyn yn erbyn y meini prawf presennol, a bydd yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd gwladolion yr UE, neu aelodau o'u teulu, sy'n cael eu hasesu’n gymwys i gael grantiau a/neu fenthyciadau gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedyn yn gymwys drwy gydol eu hastudiaethau ar y cwrs hwnnw."

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

11 Gorffennaf 2018